Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2020
Amser:
12.32 -
16.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6344
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Jayne Bryant AS (yn lle Hefin David AS) Suzy Davies AS Janet Finch-Saunders AS Siân Gwenllian AS |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg Steve Davies, Cyfarwyddwr y Cyfarwyddiaeth Addysg Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Angel Ezeadum, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru Ali Abdi, Prif Gydgysylltydd y Fforwm Ieuenctid BAME Cenedlaethol |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Dirprwyodd Jayne Bryant AS ar ei ran.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
2.1 Holodd yr Aelodau’r Gweinidog Addysg am COVID-19 a'i effaith ar blant a phobl ifanc.
2.2 Cytunodd y Gweinidog a'i swyddogion i rannu’r canlynol â'r Pwyllgor:
- adolygiad o ddysgu cyfunol a gynhaliwyd gan y consortia addysg rhanbarthol a manylion y camau a gymerwyd o ganlyniad iddo; a
- phapur a gyhoeddwyd ar y cyd ag Estyn a'r consortia addysg rhanbarthol yn rhoi mwy o fanylion am gyngor i ysgolion ynghylch dysgu cyfunol.
2.3 Cytunwyd y byddai cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y Gweinidog am ymateb ysgrifenedig.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4 a 5
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Covid-19 – ystyried y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn flaenorol.
5 Briff technegol Llywodraeth Cymru ynghylch deddfwriaeth sydd ar ddod
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) gan swyddogion Llywodraeth Cymru.
6 Trafod deddfwriaeth sydd ar ddod
6.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeddfwriaeth sydd ar ddod.
7 COVID-19: sesiwn dystiolaeth ar effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc gyda chynrychiolwyr Race Council Cymru
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Race Council Cymru ar effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc o'r gymuned BAME.
8 Papurau i’w nodi
8.1 Cafodd y papurau eu nodi.
9 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
9.1 Derbyniwyd y cynnig.
10 Covid-19 – ystyried y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda chynrychiolwyr Race Council Cymru.
11 Gohebiaeth y Pwyllgor - i'w thrafod a'i chytuno
11.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr drafft at y Gweinidog Addysg ynghylch addysg ddewisol gartref a chytunwyd arno.